Showing posts with label adnoddau. Show all posts
Showing posts with label adnoddau. Show all posts

Monday, 8 September 2014

Cyhoeddiad Pwysig: Athens

Cyhoeddiad Pwysig

Mae’r dull o gael mynediad i adnoddau llyfrgell ar-lein PCYDDS yn newid!


Fel y gwyddoch, mae Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu PCYDDS yng Nghaerfyrddin, Llambed a Llundain yn defnyddio system fewngofnodi Athens ar hyn o bryd ar gyfer adnoddau ar-lein megis e-lyfrau ac e-gylchgronau.  Mae nifer o anfanteision i’r system hon:

  • Mae angen ichi gofio enw defnyddiwr a chyfrinair ar gyfer Athens sy’n wahanol i'ch prif gyfrif prifysgol;
  • Mae’n rhaid inni anfon eich manylion mewngofnodi ar gyfer Athens atoch drwy e-byst awtomatig, sydd weithiau'n cael eu hatal gan hidlwyr post sothach; 
  • Nid yw’n hawdd diweddaru’ch manylion mewngofnodi ar gyfer Athens os byddwch yn newid eich cwrs neu'n cael estyniad, ac mae'n rhaid inni eu hymestyn â llaw ar gais; 
  • Mae system Athens yn cael ei rheoli â llaw, sy’n gallu arwain at oedi wrth ymateb i’ch e-byst ar adegau prysur. 

Er mwyn helpu datrys y problemau hyn a gwella ein gwasanaeth ichi, mae’r Llyfrgell yn symud i ffwrdd oddi wrth Athens am y rhan fwyaf o’n hadnoddau ar-lein gan ddechrau ym mis Medi 2014.   Yn lle hyn byddwn yn cyflwyno system fewngofnodi newydd sy’n caniatáu ichi ddefnyddio’ch enw defnyddiwr a chyfrinair prifysgol.   Ni fydd angen ichi wneud unrhyw beth i fanteisio ar y newid hwn.

I fewngofnodi gan ddefnyddio'r system newydd, o 22 Medi bydd angen ichi sicrhau eich bod yn cael mynediad i adnoddau llyfrgell naill ai drwy wefan y Llyfrgell yn http://www.uwtsd.ac.uk/library neu o gatalog y Llyfrgell yn http://tsd-c.worldcat.org neu http://tsd-l.worldcat.org/ lle gofynnir ichi fewngofnodi gan ddefnyddio'ch cyfrif PCYDDS. Sylwer na fydd yn bosibl mewngofnodi i’n hadnoddau drwy chwiliad Google neu nod tudalen blaenorol, oherwydd ni fydd modd i’r gwefannau wybod eich bod yn deillio o PCYDDS.

Os oes gennych gyfrif Athens eisoes, bydd yn parhau’n ddilys ar gyfer llawer o adnoddau tan y dyddiad y daw i ben.   Fodd bynnag byddwn yn lleihau ein cefnogaeth i Athens o fis Medi ymlaen, ac felly os daw eich manylion mewngofnodi i ben neu os cewch anawsterau, byddwn yn eich annog i ddefnyddio’r system fewngofnodi newydd.

Mae nifer bach iawn o adnoddau arbenigol a fydd yn parhau i ddefnyddio Athens.   Byddwn yn parhau i gyflenwi a chefnogi manylion mewngofnodi drwy Athens ar gais ar gyfer yr adnoddau hyn yn unig o Medi 2014:
Digimap
BUFVC

Os bydd unrhyw ymholiadau gennych, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda:
Caerfyrddin - Llyfrgell-Caerfyrddin@ydds.pcydds.ac.uk
Llambed –  Llyfrgell-Llambed@ydds.pcydds.ac.uk
Llundain -  LondonLibrary@tsd.uwtsd.ac.uk

Tuesday, 7 January 2014

E-gylchgronau newydd!

O Ionawr 2014, bydd nifer mawr o e-gylchgronau 30153 testun llawn newydd ar gael ichi drwy Lyfrgell eich Prifysgol!

Mae gennym fynediad i’r adnoddau testun llawn newydd gwych hyn gan EBSCO:
Education Source                                                                       
SportDiscus Full Text
CINAHL Plus Full Text
Art Source
Hospitality Tourism Complete
Humanities Source
Academic Search Complete
 
Ewch i http://search.ebscohost.com i ddechrau chwilio ynddynt…

Tuesday, 8 January 2013

Adnoddau’r CAD bellach ar gael drwy Google Scholar

Wrth chwilio gyda Google Scholar ar y campws, bydd dolenni i erthyglau testun llawn rydym yn tanysgrifio iddynt bellach yn ymddangos yn awtomatig ar ochr dde canlyniadau’r chwilio.  Bydd dolen hefyd yn ymddangos wrth ochr canlyniadau chwilio y mae'n debygol bod mynediad gennym drwy ddarparwyr eraill. Bydd y ddolen yn nodi "Check for full text @TSD". Mae’r ddolen yn caniatáu i chi chwilio adnoddau'r CAD i gael mynediad testun llawn i'r un erthygl drwy ffynhonnell arall.

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ewch i Google Scholar yn http://scholar.google.co.uk

Wrth chwilio gyda Google Scholar oddi ar y campws, gallwch wirio adnoddau’r CAD hefyd drwy fewngofnodi gyda’ch cyfrif Google a newid eich dewisiadau.  Ewch i’r gosodiadau ar Scholar, cliciwch ar Library links, chwiliwch am “Trinity Saint David" a thiciwch y blwch.

Sylwer na fydd pob canlyniad o’n hadnoddau arbenigol yn ymddangos gyda’r dull hwn. Felly ar gyfer chwilio mwy dwys rydym yn argymell eich bod yn mynd i'n tudalen ar gyfer adnoddau electronig yn:  http://www.trinitysaintdavid.ac.uk/cy/cad/adnoddauar-lein/ 

Friday, 1 June 2012

Cronfa Traethodau Hir a Thraethodau Ymchwil ProQuest ar gyfer y DU ac Iwerddon

Bellach mae’r CAD wedi tanysgrifio i ProQuest Dissertations and Theses: UK and Ireland.

Yn y gronfa ddata hon, ceir cofnod cynhwysfawr o draethodau ymchwil doethuriaethau o’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Y casgliad hwn yw’r rhestr fwyaf cynhwysfawr sydd ar gael o draethodau ymchwil, sy'n cynnwys crynodebau a dderbyniwyd ar gyfer graddau uwch gan brifysgolion yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, a hynny er 1716:
http://search.proquest.com/?accountid=130472

Tuesday, 13 September 2011

Hyfforddiant Adnoddau Ar-lein: Hydref ‘11

Yn atodedig mae gwybodaeth y CAD, a sesiynau llythrennedd digidol. 
Ymunwch a ni, ac os oes unrhyw gwestiwn i holi, cysylltwch a ni.

Er mwyn cadw lle ar unrhyw un o’r sesiynau isod, e-bostiwch:
Campws Caerfyrddin: cadcaerfyrddin@ydds.ac.uk
Campws Llambed: kathryn.james@ydds.ac.uk

1       Cyfrifiadura Cwmwl

  • Beth yw cyfrifiadura cwmwl?
  • Pam ei fod ef mor ddefnyddiol?
  • Pa offer fyddai’n ddefnyddiol i mi wrth addysgu?
Os hoffech chi wybod mwy a dechrau defnyddio Delicious, Twitter, Skype,  VoiceThread, a Google... ymunwch â ni yn un o’r sesiynau isod.
Caerfyrddin: Y Cwad, Ystafell 1, Dydd Mawrth 20 Medi, 10am i 12 hanner dydd
Llambed (lleoliad i’w gadarnhau), Dydd Iau 22 Medi, 10am i 12 hanner dydd

2    Beth gall y CAD ei wneud i chi?

Mae gan y CAD amrywiaeth o offer sy’n hanfodol i chi a'ch myfyrwyr.   Dewch i un o’r sesiynau hyn i ddysgu mwy am:
  • Refworks
  • WorldCat
  • Newsbank
Caerfyrddin: Y Cwad, Ystafell 1, Dydd Gwener 14 Hydref, 10am i 12 hanner dydd
Llambed: Lab. Cyfrifiaduron UCS, Dydd Mercher 12 Hydref, 10am i 12 hanner dydd

3       Gweithdy Podledu

Wedi meddwl am recordio’ch seminarau, darlithoedd neu siaradwyr gwadd?  Mae’r sesiwn hon yn ymwneud â’ch cyflwyno chi i bodledu. Dewch i roi cynnig ar ddefnyddio’r offer, holi cwestiynau a chael hwyl...!
Caerfyrddin: Y Cwad, Ystafell 1, Dydd Mawrth 1 Tachwedd, 10am i 12 hanner dydd
Llambed (lleoliad i’w gadarnhau), Dydd Mawrth 8 Tachwedd, 10am i 12 hanner dydd

4       Dysgu symudol

Oeddech chi’n gwybod bod dysgu symudol yn fwy na ffonau symudol yn unig?  Dewch i gael gwybod mwy yn y sesiwn hon...  mae llawer i’w ddysgu...!
Caerfyrddin: Y Cwad, Ystafell 1, Dydd Mercher 7 Rhagfyr, 10am i 12 hanner dydd
Llambed (lleoliad i’w gadarnhau), Dydd Mawrth 6 Rhagfyr, 10am i 12 hanner dydd

Thursday, 1 September 2011

Grove Art Online

Mae Grove Art Online yn cwmpasu pob agwedd ar y celfyddydau gweledol o’r cyfnod cynhanes hyd heddiw, o gelfyddyd a phensaernïaeth i gerameg a ffotograffiaeth. Mae’n rhoi mynediad i destun mwy na 50,000 o erthyglau o’r Dictionary of Art a’i 34 cyfrol, yr Encyclopedia of Aesthetics, y Concise Oxford Dictionary of Art Terms, a’r Oxford Companion to Western Art.

Hefyd mae’n cynnwys delweddau o’r gweithiau celf amlycaf yn y maes, trwy bartneriaethau â sefydliadau rhagorol megis Amgueddfa Fetropolitan Celfyddyd (Efrog Newydd), Llyfrgell Gelf Bridgeman, Yr Amgueddfa Brydeinig, yr Amgueddfa Celfyddyd Fodern (MoMA) (Efrog Newydd), Art Resource, ARTstor, Art Images for College Teaching (AICT), ac orielau rhyngwladol ac artistiaid unigol niferus.

Sunday, 15 May 2011

Cwrs Cinio: Adnoddau Ar-lein y CAD

Dewch i ddysgu sut i wneud yn fawr o ystod fawr o adnoddau ar-lein gyda’r Ganolfan Adnoddau Dysgu ddydd Mercher 25 Mai, 12.00 – 2.30pm. Mae croeso i chi fynd i unrhyw un o’r sesiynau unigol sydd o ddiddordeb, neu fel arall aros am y digwyddiad cyfan. Mae croeso i fyfyrwyr a staff. Archebwch le trwy anfon e-bost i cadcaerfyrddin@ydds.ac.uk erbyn 20 Mai.

Ystafell D004, dydd Mercher, 25 Mai, 12:00 - 2:30pm
Yn cynnwys cinio bwffe am ddim!


12:00 – Nodau Tudalen Cymdeithasol trwy ddefnyddio Delicious
Dewch i ddysgu sut y gall nodau tudalen cymdeithasol fod o fudd i chi wrth astudio ac ymchwilio yn y sesiwn ymarferol hon sy’n defnyddio gwasanaeth nodau cymdeithasol ar-lein di-dâl Delicious.

12:30 – Education Research Complete (Treial)
Mae hon yn gronfa ddata lyfryddol â thestun llawn sy'n cwmpasu gwybodaeth ac ymchwil ysgolheigaidd yn gysylltiedig â phob maes addysg. Byddem yn gwerthfawrogi cael eich adborth ar ddefnyddio’r adnodd hwn.

12:45 – Cinio Bwffe

13:00 – WorldCat Local a Link Manager WorldCat
Dewch i ddarganfod catalog CAD Y Drindod Dewi Sant sydd ar fin ymddangos, ac sy’n cynnwys campysau Caerfyrddin a Llambed, sef WorldCat Local, ynghyd â Link Manager, ein porth newydd ar gyfer cyfnodolion electronig testun llawn ac e-lyfrau.

1:30 - Newsbank
Mae gan Newsbank filoedd o erthyglau testun llawn o dros 20 o bapurau newyddion dyddiol ac wythnosol o Gymru a thros 350 o'r DU o 1985 hyd heddiw. Dewch i wybod sut i wneud yn fawr o’r archif ar-lein gynhwysfawr hon o bapurau newyddion.

1:50 - RefWorks
Rhaglen ar-lein ar gyfer cyfeirnodi yw RefWorks, a’i nod yw helpu ymchwilwyr i gasglu, rheoli, cadw a rhannu pob math o wybodaeth, yn ogystal â chynhyrchu dyfyniadau a llyfryddiaethau. Dewch i ddysgu sut y gall RefWorks eich helpu i reoli’r gwaith o gyfeirnodi wrth astudio ac ymchwilio. Cofiwch ddod â manylion eich cyfrif Athens er mwyn gwneud yn fawr o’r sesiwn.

Thursday, 12 May 2011

Cronfa ddata Education Research Database

Am gyfnod o dreialu hyd ddiwedd Mehefin, mae mynediad gan y CAD i gronfa ddata Education Research Complete. Dyma’r wybodaeth am yr adnodd ar dudalen we’r darparwr http://www.ebscohost.com/academic/education-research-complete/

"This massive file offers the world's largest and most complete collection of full-text education journals. It is a bibliographic and full-text database covering scholarly research and information relating to all areas of education. Topics covered include all levels of education from early childhood to higher education, and all educational specialties, such as multilingual education, health education, and testing."

Er mwyn cael mynediad i'r gronfa ddata hon yn ystod y cyfnod treialu ewch i http://search.ebscohost.com/ a dewiswch EBSCOhost Web. Er mwyn defnyddio Education Research Complete gallwch chi naill ai ei dewis yn y blwch 'Trial Databases', neu sgroliwch lawr y brif restr. Oddi ar y campws bydd angen eich cyfrinair Athens neu'r manylion isod i gael mynediad i'r gronfa ddata
Rhif Defnyddiwr: s4793139
Cyfrinair: triadmin
Byddem yn gwerthfawrogi cael eich adborth ar ddefnyddio'r adnodd hwn. Anfonwch eich sylwadau at e.harris@ydds.ac.uk neu gadewch sylwadau ar flog y CAD http://tsdlrc.blogspot.com/
Os hoffech gael gwybodaeth bellach neu gymorth wrth ddefnyddio'r adnodd hwn, mae croeso i chi gysylltu â mi.


For a trial period until the end of June the LRC has access to Education Research Complete. Information on the providers webpage available at http://www.ebscohost.com/academic/education-research-complete/ states"This massive file offers the world's largest and most complete collection of full-text education journals. It is a bibliographic and full-text database covering scholarly research and information relating to all areas of education. Topics covered include all levels of education from early childhood to higher education, and all educational specialties, such as multilingual education, health education, and testing."
To access this data base during the trial period please go to http://search.ebscohost.com/ and select EBSCOhost web. To use Education Research Complete either select it in the trial databases section or scroll down the main list. Off campus you will need your Athens password or these details to access the databaseUser Id:s4793139Password:triadminWe would value your feedback on using this resource. Please send comment to e.harris@tsd.ac.uk or leave a comment on the LRC blog http://tsdlrc.blogspot.com/

Tuesday, 15 March 2011

E-Adnoddau @ Llyfrgell Llambed

Beth am wella’ch ymchwil trwy gyfrwng yr e-lyfrau testun llawn diweddaraf a’r tanysgrifiadau?

Ymunwch â ni i gael gwybod mwy am yr adnoddau electronig sydd ar gael i chi trwy’r Ganolfan Adnoddau Dysgu, a sut i fanteisio arnynt trwy ddefnyddio eich manylion mewngofnodi ar gyfer Athens yn y Brifysgol.  Mae croeso i staff a myfyrwyr ddod!

Llyfrgell Llambed
23 March 2011: 2pm - 5pm
30 March 2011: 2pm - 5pm

Gynnwys lluniaeth!

Gwybodaeth Bellach
Ebost: cadllambed@ydds.ac.uk
Ffôn: (01570) 424798

Sunday, 28 November 2010

Perlau Annisgwyl: Adnoddau cudd yn Athens a thu hwnt!

Beth am wella’ch ymchwil trwy gyfrwng yr e-lyfrau testun llawn diweddaraf a’r tanysgrifiadau i e-gyfnodolion sydd gennym, neu beth am gamu’n ôl mewn amser trwy gyfrwng ein harchifau papurau newydd a chylchgronau? Ymunwch â ni ddydd Mercher i gael gwybod mwy am yr adnoddau electronig sydd ar gael i chi trwy’r Ganolfan Adnoddau Dysgu, a sut i fanteisio arnynt trwy ddefnyddio eich manylion mewngofnodi ar gyfer Athens yn y Brifysgol.

Mae croeso i staff a myfyrwyr ddod!

Campws Caerfyrddin

Dydd Mercher 1 Rhagfyr
11:30 - 12:30
Ystafell D004, Dewi

Thursday, 5 November 2009

Literature Online

Have you tried Literature Online?

It contains:
  • over 350,000 works of poetry, prose and drama in English from the 8th Century to the present day
  • over 250 carefully selected full-text journals
  • over 4,300 specially commissioned biographies
  • records for more than 18,000 authors
  • unique multimedia content reference works, essays and MORE all from your desktop!

Try it here: http://lionreference.chadwyck.co.uk/

(Athens password reuired if you're not on the Trinity campus)

Tuesday, 20 October 2009

EU digital library


The European Union has just launched its digital library, making many of the EU's offical documents published since 1952 avaialble for free on the Internet.



Monday, 5 October 2009

FirstSearch


We now have access to the FirstSearch service in collaboration with the Library Services at UW Lampeter. FirstSearch provides electronic access to dozens of databases and more than 10 million full-text and full-image articles. The databases include: WorldCat, ArticleFirst, ECO, ProceedingsFirst, PapersFirst, Clase Periodica, WorldCat Dissertations, GPO, ERIC, MEDLINE, OAISter World Almanac plus MLA Bib, ATLA and ATLAS. If you need any advice with using this resource please contact the LRC where staff will be happy to provide training.You can access this resource using your Athens Account at:http://firstsearch.oclc.org/athensor http://www.athens.ac.uk/

FirstSearch


Bellach gallwn gael mynediad i wasanaeth FirstSearch ar y cyd âr Gwasanaethau Llyfrgell ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan. Mae FirstSearch yn darparu mynediad electronig i ddwsinau o gronfeydd data a mwy na 10 miliwn o erthyglau â thestun llawn a delweddau llawn. Maer cronfeydd datan cynnwys: WorldCat, ArticleFirst, ECO, ProceedingsFirst, PapersFirst, Clase Periodica, WorldCat Dissertations, GPO, ERIC, MEDLINE, OAISter World Almanac plus MLA Bib, ATLA ac ATLAS. Os bydd angen cyngor arnoch chi wrth ddefnyddior adnodd hwn, a wnewch chi gysylltu â staff y CAD a fydd yn hapus i ddarparu hyfforddiant.Gallwch gael mynediad ir adnodd hwn trwy ddefnyddioch Cyfrif Athens yn:http://firstsearch.oclc.org/athens neu http://www.athens.ac.uk/

Friday, 2 October 2009

Adnoddau’r Ganolfan Adnoddau Addysgu

Ar hyn o bryd rydym wrthi’n datblygu’r Ganolfan Adnoddau Addysgu (CAA) yn ardal dysgu cymdeithasol newydd a chyffrous, a dylai agor nes ymlaen yn yr hydref.

Er mwyn gwneud yn siŵr bod adnoddau mwyaf poblogaidd y CAA ar gael i bawb o hyd, mae llawer bellach wedi cael eu symud i'r Llyfrgell. Mae’r Casgliad Ymarfer Dysgu bellach ar y silffoedd symudol newydd tua chefn y Llyfrgell. Mae’r Llyfrau Mawr yn y Llyfrgell hefyd, gyferbyn â’r silffoedd symudol dan y staer.

Symudwyd y Casgliad Addysg i’r Llyfrgell ac rydym yn y broses o’i hintegreiddio â’n Prif Gasgliad. Rhestrir yr holl adnoddau hyn a’u lleoliad cyfredol ar HIP, catalog y CAD.

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau defnyddio’r ardal newydd pan fydd yn agor, ac y byddwch yn derbyn ein hymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra a achosir tra ein bod yn y broses o symud ein hadnoddau.