Thursday 1 September 2011

Grove Art Online

Mae Grove Art Online yn cwmpasu pob agwedd ar y celfyddydau gweledol o’r cyfnod cynhanes hyd heddiw, o gelfyddyd a phensaernïaeth i gerameg a ffotograffiaeth. Mae’n rhoi mynediad i destun mwy na 50,000 o erthyglau o’r Dictionary of Art a’i 34 cyfrol, yr Encyclopedia of Aesthetics, y Concise Oxford Dictionary of Art Terms, a’r Oxford Companion to Western Art.

Hefyd mae’n cynnwys delweddau o’r gweithiau celf amlycaf yn y maes, trwy bartneriaethau â sefydliadau rhagorol megis Amgueddfa Fetropolitan Celfyddyd (Efrog Newydd), Llyfrgell Gelf Bridgeman, Yr Amgueddfa Brydeinig, yr Amgueddfa Celfyddyd Fodern (MoMA) (Efrog Newydd), Art Resource, ARTstor, Art Images for College Teaching (AICT), ac orielau rhyngwladol ac artistiaid unigol niferus.

No comments: