Tuesday 13 September 2011

Hyfforddiant Adnoddau Ar-lein: Hydref ‘11

Yn atodedig mae gwybodaeth y CAD, a sesiynau llythrennedd digidol. 
Ymunwch a ni, ac os oes unrhyw gwestiwn i holi, cysylltwch a ni.

Er mwyn cadw lle ar unrhyw un o’r sesiynau isod, e-bostiwch:
Campws Caerfyrddin: cadcaerfyrddin@ydds.ac.uk
Campws Llambed: kathryn.james@ydds.ac.uk

1       Cyfrifiadura Cwmwl

  • Beth yw cyfrifiadura cwmwl?
  • Pam ei fod ef mor ddefnyddiol?
  • Pa offer fyddai’n ddefnyddiol i mi wrth addysgu?
Os hoffech chi wybod mwy a dechrau defnyddio Delicious, Twitter, Skype,  VoiceThread, a Google... ymunwch â ni yn un o’r sesiynau isod.
Caerfyrddin: Y Cwad, Ystafell 1, Dydd Mawrth 20 Medi, 10am i 12 hanner dydd
Llambed (lleoliad i’w gadarnhau), Dydd Iau 22 Medi, 10am i 12 hanner dydd

2    Beth gall y CAD ei wneud i chi?

Mae gan y CAD amrywiaeth o offer sy’n hanfodol i chi a'ch myfyrwyr.   Dewch i un o’r sesiynau hyn i ddysgu mwy am:
  • Refworks
  • WorldCat
  • Newsbank
Caerfyrddin: Y Cwad, Ystafell 1, Dydd Gwener 14 Hydref, 10am i 12 hanner dydd
Llambed: Lab. Cyfrifiaduron UCS, Dydd Mercher 12 Hydref, 10am i 12 hanner dydd

3       Gweithdy Podledu

Wedi meddwl am recordio’ch seminarau, darlithoedd neu siaradwyr gwadd?  Mae’r sesiwn hon yn ymwneud â’ch cyflwyno chi i bodledu. Dewch i roi cynnig ar ddefnyddio’r offer, holi cwestiynau a chael hwyl...!
Caerfyrddin: Y Cwad, Ystafell 1, Dydd Mawrth 1 Tachwedd, 10am i 12 hanner dydd
Llambed (lleoliad i’w gadarnhau), Dydd Mawrth 8 Tachwedd, 10am i 12 hanner dydd

4       Dysgu symudol

Oeddech chi’n gwybod bod dysgu symudol yn fwy na ffonau symudol yn unig?  Dewch i gael gwybod mwy yn y sesiwn hon...  mae llawer i’w ddysgu...!
Caerfyrddin: Y Cwad, Ystafell 1, Dydd Mercher 7 Rhagfyr, 10am i 12 hanner dydd
Llambed (lleoliad i’w gadarnhau), Dydd Mawrth 6 Rhagfyr, 10am i 12 hanner dydd

No comments: