Wednesday 24 April 2013

Looking for a part-time job for next year?


 

The Lampeter Campus Learning Resources Centre has the following vacancies:

Learning Resources Assistant

During term time from Sept. 2013

Closing date: 3 May 2013

This post may be split between 2 or more candidates.

For further details and an application form please contact the Department of Human Resources on 01267 676842 or email humanresources@tsd.ac.uk

Ydych chi’n chwilio am swydd ran-amser ar gyfer y flwyddyn nesaf?


 
Mae’r swyddi gwag canlynol ar gael yn y Ganolfan Adnoddau Dysgu ar gampws Llambed:

Cynorthwy-ydd Adnoddau Dysgu

 Yn ystod y tymor o fis Medi 2013 ymlaen

 Dyddiad cau: 3 Mai 2013


Gellir rhannu’r swydd hon rhwng 2 neu ragor o ymgeiswyr.

I gael rhagor o fanylion ynghyd â ffurflen gais cysylltwch â’r Adran Adnoddau Dynol ar 01267 676842 neu anfonwch e-bost i humanresources@ydds.ac.uk

 

Tuesday 23 April 2013

Use it or lose it!


Use it or lose it!

The artefact collection at TSD on the Carmarthen campus could be regarded as an endangered species. Fewer and fewer universities with teacher training course host a collection such as this. Please help us keep ours. Usage in the 1st term of this academic year fell to an all-time low (this may be due to the new timing of teaching practice). Space is at a premium in the LRC on the Carmarthen campus and collections which are not used could be removed. If you have never used the collection why not come and take a look – it was created for those doing teacher training but resources there may be of use to those doing other courses such as Early Childhood Studies and Youth and Community. Those of you

who have used the collection in the past if you think it should be kept please
ensure you use it in the coming weeks.
When artefacts are taken into School the children have a unique opportunity to handle and engage with them which allows a very different learning experience to using the web for learning. The artefact collection contains a wide range of objects from Romans coins, Hanukah lamp through to bee-bots, play parachutes and puppets.

I’w ddefnyddio neu’i golli!


I’w ddefnyddio neu’i golli!

 
A yw’r casgliad arteffactau yn YDDS ar gampws Caerfyrddin yn rhywogaeth sydd mewn perygl, tybed? Mae gan lai a llai o brifysgolion sydd â chwrs hyfforddi athrawon gasgliad tebyg i hwn L. Helpwch ni i gadw’n casgliad ni. Yn ystod tymor 1af y flwyddyn academaidd hon, bu’r defnydd arno yn is nag erioed o’r blaen (efallai fod hyn o ganlyniad i amseriad newydd ymarfer dysgu). Mae lle yn brin yn y CAD ar gampws Caerfyrddin ac efallai y symudir casgliadau nas defnyddir. Os nad ydych byth wedi defnyddio’r casgliad beth am ddod i fwrw golwg arno – fe’i crëwyd i’r rheini sy’n gwneud hyfforddiant dysgu, ond efallai y bydd o ddefnydd i’r rheini sy’n gwneud cyrsiau eraill megis Astudiaethau Plentyndod Cynnar ac Ieuenctid a Chymuned.  Os yw’r rheini ohonoch sydd wedi defnyddio’r casgliad yn  y gorffennol o’r farn y dylid ei gadw, cofiwch sicrhau eich bod yn ei ddefnyddio yn ystod yr wythnosau nesaf.
Pan gymerir arteffactau i’r Ysgol caiff y plant gyfle unigryw i'w trin a’u trafod ac mae'u profiad dysgu’n wahanol iawn i ddefnyddio’r we ar gyfer dysgu. Yn y casgliad arteffactau ceir ystod eang o wrthrychau o ddarnau arian Rhufeinig, lamp Hanukah i offer Bee-bot, parasiwtiau a phypedau.

Monday 15 April 2013

Bookable study rooms now available!


 

Lampeter library has 4 bookable study rooms.  To book visit http://www.trinitysaintdavid.ac.uk/en/lrc/servicesforstudents/groupstudyrooms/ , enter your library card details and follow the instructions on screen to make a booking.

Mae gan lyfrgell Llambed 4 ystafell astudio y gallwch eu bwcio.  I’w bwcio ewch i http://www.ydds.ac.uk/cy/cad/gwasanaethauifyfyrwyr/ystafelloeddastudioigrp/ , teipiwch fanylion eich cerdyn llyfrgell a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i’w bwcio.