Friday 2 October 2009

Adnoddau’r Ganolfan Adnoddau Addysgu

Ar hyn o bryd rydym wrthi’n datblygu’r Ganolfan Adnoddau Addysgu (CAA) yn ardal dysgu cymdeithasol newydd a chyffrous, a dylai agor nes ymlaen yn yr hydref.

Er mwyn gwneud yn siŵr bod adnoddau mwyaf poblogaidd y CAA ar gael i bawb o hyd, mae llawer bellach wedi cael eu symud i'r Llyfrgell. Mae’r Casgliad Ymarfer Dysgu bellach ar y silffoedd symudol newydd tua chefn y Llyfrgell. Mae’r Llyfrau Mawr yn y Llyfrgell hefyd, gyferbyn â’r silffoedd symudol dan y staer.

Symudwyd y Casgliad Addysg i’r Llyfrgell ac rydym yn y broses o’i hintegreiddio â’n Prif Gasgliad. Rhestrir yr holl adnoddau hyn a’u lleoliad cyfredol ar HIP, catalog y CAD.

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau defnyddio’r ardal newydd pan fydd yn agor, ac y byddwch yn derbyn ein hymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra a achosir tra ein bod yn y broses o symud ein hadnoddau.

No comments: