Friday 2 October 2009

Mannau hunanwasanaeth newydd

Dewch i’r Llyfrgell a rhowch gynnig ar ein mannau hunanwasanaeth newydd. Maen nhw’n gadael ichi fenthyg a dychwelyd llyfrau, DVDs a chryno ddisgiau’n gyflym ac yn rhwydd.

Pwyswch ar y sgrin i wneud eich dewis, wedyn rhowch nifer o lyfrau, DVDs neu gryno ddisgiau ar y man gwyn dan y sgrin i’w benthyg neu’u dychwelyd. Yn wahanol i’r peiriant hunanwasanaeth blaenorol, nid oes angen sganio’r cod bar tu fewn i glawr y llyfrau bellach.

Bydd y peiriannau hunanwasanaeth hefyd yn dweud wrthych chi a oes eitem ar gadw ac yn barod ichi ei chasglu, ac a oes unrhyw daliadau ar eich cyfrif. Cyn hir byddwch yn gallu gwneud taliad hunanwasanaeth trwy gerdyn â sglodyn a rhif pin.
Darparwyd ein peiriannau hunanwasanaeth newydd trwy brosiect y Llyfrgell Academaidd Rithwir dan adain SWWHEP.

No comments: