Sunday 15 May 2011

Cwrs Cinio: Adnoddau Ar-lein y CAD

Dewch i ddysgu sut i wneud yn fawr o ystod fawr o adnoddau ar-lein gyda’r Ganolfan Adnoddau Dysgu ddydd Mercher 25 Mai, 12.00 – 2.30pm. Mae croeso i chi fynd i unrhyw un o’r sesiynau unigol sydd o ddiddordeb, neu fel arall aros am y digwyddiad cyfan. Mae croeso i fyfyrwyr a staff. Archebwch le trwy anfon e-bost i cadcaerfyrddin@ydds.ac.uk erbyn 20 Mai.

Ystafell D004, dydd Mercher, 25 Mai, 12:00 - 2:30pm
Yn cynnwys cinio bwffe am ddim!


12:00 – Nodau Tudalen Cymdeithasol trwy ddefnyddio Delicious
Dewch i ddysgu sut y gall nodau tudalen cymdeithasol fod o fudd i chi wrth astudio ac ymchwilio yn y sesiwn ymarferol hon sy’n defnyddio gwasanaeth nodau cymdeithasol ar-lein di-dâl Delicious.

12:30 – Education Research Complete (Treial)
Mae hon yn gronfa ddata lyfryddol â thestun llawn sy'n cwmpasu gwybodaeth ac ymchwil ysgolheigaidd yn gysylltiedig â phob maes addysg. Byddem yn gwerthfawrogi cael eich adborth ar ddefnyddio’r adnodd hwn.

12:45 – Cinio Bwffe

13:00 – WorldCat Local a Link Manager WorldCat
Dewch i ddarganfod catalog CAD Y Drindod Dewi Sant sydd ar fin ymddangos, ac sy’n cynnwys campysau Caerfyrddin a Llambed, sef WorldCat Local, ynghyd â Link Manager, ein porth newydd ar gyfer cyfnodolion electronig testun llawn ac e-lyfrau.

1:30 - Newsbank
Mae gan Newsbank filoedd o erthyglau testun llawn o dros 20 o bapurau newyddion dyddiol ac wythnosol o Gymru a thros 350 o'r DU o 1985 hyd heddiw. Dewch i wybod sut i wneud yn fawr o’r archif ar-lein gynhwysfawr hon o bapurau newyddion.

1:50 - RefWorks
Rhaglen ar-lein ar gyfer cyfeirnodi yw RefWorks, a’i nod yw helpu ymchwilwyr i gasglu, rheoli, cadw a rhannu pob math o wybodaeth, yn ogystal â chynhyrchu dyfyniadau a llyfryddiaethau. Dewch i ddysgu sut y gall RefWorks eich helpu i reoli’r gwaith o gyfeirnodi wrth astudio ac ymchwilio. Cofiwch ddod â manylion eich cyfrif Athens er mwyn gwneud yn fawr o’r sesiwn.

No comments: