Sunday 28 November 2010

Perlau Annisgwyl: Adnoddau cudd yn Athens a thu hwnt!

Beth am wella’ch ymchwil trwy gyfrwng yr e-lyfrau testun llawn diweddaraf a’r tanysgrifiadau i e-gyfnodolion sydd gennym, neu beth am gamu’n ôl mewn amser trwy gyfrwng ein harchifau papurau newydd a chylchgronau? Ymunwch â ni ddydd Mercher i gael gwybod mwy am yr adnoddau electronig sydd ar gael i chi trwy’r Ganolfan Adnoddau Dysgu, a sut i fanteisio arnynt trwy ddefnyddio eich manylion mewngofnodi ar gyfer Athens yn y Brifysgol.

Mae croeso i staff a myfyrwyr ddod!

Campws Caerfyrddin

Dydd Mercher 1 Rhagfyr
11:30 - 12:30
Ystafell D004, Dewi

No comments: