Wednesday 31 March 2010

Eich Awgrymiadau

English version

Diolch i bawb am eich awgrymiadau. Y mis yma rydym ni’n canolbwyntio ar rai o’r awgrymiadau rydym ni wedi’u derbyn ar gyfer y Llyfrgell:

Mwy o gyfrifiaduron”: Rydym ni bob amser yn ystyried ffyrdd o wella’n darpariaeth o ran cyfrifiaduron, ac ym mis Ionawr 2010 agorwyd Y Cwad gyda 7 cyfrifiadur newydd sbon. Hefyd rydym ni wedi archebu 2 iMac i’r Cwad a byddan nhw’n cyrraedd cyn hir. Oherwydd diffyg lle a chynnydd yn y galw am gyfrifiaduron cludadwy, ar hyn o bryd rydym ni’n ystyried prynu gliniaduron newydd i’r CAD.

Cyfnodau benthyca hirach”: Pan fo’n bosibl rydym ni’n ceisio adolygu cyfnodau benthyca teitlau unigol yn unol â’r galw. Rydym ni newydd wneud adolygiad o’r teitlau band glas yn y Llyfrgell ac wedi rhoi rhai o’r rhain ar gael ar gyfer y cyfnod benthyca safonol o 2 neu 4 wythnos. Cofiwch fod angen inni gydbwyso'ch ceisiadau am fenthyciadau hirach â'r rheini gan gwsmeriaid sy'n teimlo nad oes gennym ddigon o lyfrau ar hyn o bryd! Yn ddiweddar rydym ni wedi cyflwyno polisi e-lyfrau er mwyn sicrhau bod unrhyw deitlau newydd yn cael eu prynu fel e-lyfrau pan fo hynny’n bosibl, er mwyn cynyddu mynediad i’r teitlau hynny a sicrhau eu bod ar gael ar bob adeg.

Lleihau’r dirwyon”: Dim ond ar eitemau sy'n cael eu dychwelyd yn hwyr y byddwn ni'n codi dirwyon, felly os gwnewch chi adnewyddu neu ddychwelyd eich holl adnoddau ar amser ni fydd gofyn ichi dalu ceiniog inni! Rydym ni’n codi dirwyon er mwyn annog cwsmeriaid i ddychwelyd adnoddau ar amser a gallu’u rhoi ar gael i bobl eraill. Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi adnewyddu’ch benthyciadau gan osgoi dirwyon – ar-lein yn http://hip.drindod.ac.uk, yn bersonol yn y Llyfrgell, neu trwy ffonio 01267 676780.

Dau ddilyniant gwahanol ar y silff i lyfrau mawr Cymraeg a Saesneg”: Rydym ni wedi ystyried yr awgrym hwn yn ofalus ac ar hyn o bryd rydym ni’n teimlo na fyddai’n briodol. Un rheswm am hyn yw bod cynifer o deitlau dwyieithog na fyddai’n gweddu i drefniant tebyg yn dda iawn. Hefyd mae’r trefniant cyfredol yn helpu cwsmeriaid sy’n chwilio am ddeunydd yn y naill iaith neu’r llall yn ôl y pwnc, ac mae’n rhoi amlygrwydd cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg.

Papur am ddim”: Rydym ni eisoes yn darparu papur am ddim ichi argraffu a llungopïo.

No comments: