Monday 8 March 2010

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales


Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn ymweld â Choleg Prifysgol y Drindod ddydd Llun 22 Mawrth fel rhan o’i Sioe Deithio a chaiff digwyddiad ei gynnal yn Ystafell Grŵp 1 yn y Cwad rhwng 11.30 y bore a 3 o’r gloch y prynhawn. Bydd y digwyddiad o ddiddordeb i staff academaidd a staff cymorth, ymchwilwyr a myfyrwyr – yn wir i bawb sydd â diddordeb yn hanes diwylliannol a chymdeithasol y genedl.

Dyma rai o’r themâu a fydd yn cael sylw:

1. Sut i ymuno â’r Llyfrgell
2. Sut i ddefnyddio’r catalogau a gwneud cais am eitemau neu'u cadw
3. Ein hadnoddau electronig a’r adnoddau a ddigideiddiwyd, a sut i fanteisio arnynt
4. Gwasanaethau eraill sydd ar gael, e.e. gwasanaethau di-wifrai, yr uned reprograffeg a'r uned ymholiadau.
5. Datblygiadau yn y dyfodol

Gydag aelodau o staff y Llyfrgell Genedlaethol: Carol Edwards a Manon Foster Evans


****************************************************************

The National Library of Wales is visiting Trinity University College on Monday 22nd March for a Roadshow Event to be held in Group 1 in Y Cwad from 11.30 am til 3 pm. The event is of interest to academic and support staff, researchers and students - indeed anyone who has an interest in the cultural and social history of our nation.
Themes covered include:

1. How to join the Library
2. How to use the catalogues and request/reserve items
3. Our electronic and digitised resources, and how to access them
4. Other services available e.g. wifi, reprographics unit, enquiries unit
5. Future developments

With NLW staff: Carol Edwards and Manon Foster Evans


No comments: