Tuesday 9 March 2010

Eich Awgrymiadau...

Click here for an English version of this post about your suggestions

Diolch i bawb a roddodd awgrymiadau yn ein blychau awgrymiadau newydd yn y Llyfrgell a’r Cwad. Dyma ein hadborth i’r awgrymiadau mwyaf poblogaidd yn y Cwad y mis yma...

“Cloc yn Y Cwad”: syniad da – yn sicr byddwn yn cael cloc i’r Cwad!

“Lluniau ar y wal”: mae wedi bod yn fwriad gennym o’r cychwyn i gael gwaith celf ar wal Y Cwad, a gobeithiwn allu gosod peth yn ei le yn fuan.

“Agor yn hwyrach gyda’r nos ac ar y penwythnos”: Mae’r Cwad ar agor hyd 9pm ddydd Llun i ddydd Iau, ac mae arolwg gennym ar y gweill ar hyn o bryd am ein horiau agor. Gallwch lenwi holiadur yma.

“Mwy o seddau yn Y Cwad”: mae mwy o gadeiriau ar archeb gennym a dylen nhw gyrraedd yr wythnos yma.

“Mwy o finiau sbwriel o gwmpas y lle": mae tri man ailgylchu yn Y Cwad eisoes ac rydym yn monitro’r sefyllfa.

“Bleindiau i’r ffenestri”: does dim cynlluniau gennym i gael bleindiau ar hyn o bryd gan ein bod yn gobeithio gwneud yn fawr o olwg draddodiadol yr adeilad hanesyddol hwn.

“Parc Sglefrio”: yn anffodus does dim cynlluniau gennym ar hyn o bryd i gael parc sglefrio!
Anfonir eich awgrymiadau ar gyfer y Caffi Starbucks i Ganolfan yr Halliwell.

No comments: