Showing posts with label Eich Awgrymiadau. Show all posts
Showing posts with label Eich Awgrymiadau. Show all posts

Friday, 25 March 2011

Eich Awgrymiadau - Y Cwad

Diolch i bawb am eich awgrymiadau. Y mis hwn rydym yn canolbwyntio ar rai o’r awgrymiadau sydd wedi dod i law ar gyfer y Cwad.

“Yn fy marn i dylai ardal y cyfrifiaduron fod ar gyfer gwaith ac nid ar gyfer gwefannau rhyngweithio cymdeithasol.”
Mae cyfrifiaduron y CAD ar gael i bawb, ac rydym yn derbyn efallai fod rhai myfyrwyr yn ymweld â gwefannau rhyngweithio cymdeithasol at eu defnydd personol, ond rydym hefyd yn cydnabod efallai fod llawer o fyfyrwyr yn defnyddio’r offer hyn yn gymorth astudio. Bydd rhai myfyrwyr yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â'u tiwtoriaid a'u cyd-fyfyrwyr, neu i gymryd rhan mewn prosiect grÿp, er enghraifft. Yn aml mae’n anodd asesu sut mae cyfrifiaduron yn cael eu defnyddio heb amharu ar breifatrwydd myfyrwyr fel unigolion.

“Mwy o liw, e.e. lluniau”
Yn ddiweddar mae’r CAD wedi cyflwyno arwyddion a gwaith celf newydd yn Y Cwad gyda help gwneuthurwr arwyddion proffesiynol, ac ar hyn o bryd mae'n ymchwilio i'r posibilrwydd o gyflwyno gwaith celf i'r ardal.

“Mae lefel y sÿn yn yr ardal astudio / cyfrifiaduron yn torri ar eich traws yn fawr”
Cynlluniwyd prif ardal Y Cwad i fod yn ardal dysgu cymdeithasol. Byddem yn argymell myfyrwyr i roi cynnig ar ddefnyddio'r lleoedd astudio unigol lan lofft yn y Llyfrgell ar gyfer astudio tawel, neu un o'r ystafelloedd astudio yn Y Cwad. Er eu bod wedi’u cynllunio i grwpiau astudio ynddynt, mae’n bosibl defnyddio’r ystafelloedd astudio ar gyfer astudio tawel hefyd, a gallwch chi eu harchebu, neu’u defnyddio pan nad yw myfyrwyr eraill wedi’u cadw.

Wednesday, 2 June 2010

Eich Awgrymiadau

Diolch i bawb am eich awgrymiadau. Y mis hwn rydym yn canolbwyntio ar rai o’r awgrymiadau sydd wedi dod i law ar gyfer y Llyfrgell:

Rhagor o oleuadau / gwell goleuo”: Ar hyn o bryd rydym yn ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer gwella’r golau yn y Llyfrgell gydag Adran Ystadau’r Brifysgol.

Rhagor o fyrddau i weithio arnynt”: Byddwn yn ystyried y lle sydd ar gael yn y Llyfrgell er mwyn gweld a oes unrhyw le addas ar gyfer rhagor o fyrddau astudio. Mae amrywiaeth o fyrddau astudio a seddau ar gael yn y Cwad hefyd, gan gynnwys ystafelloedd astudio grŵp y gellir eu cadw, cyfrifiaduron personol a mynediad rhyngrwyd di-wifrai.

Cofiwch ddweud eich dweud – peidiwch ag anghofio bod arolwg y Ganolfan Adnoddau Dysgu yn parhau tan 30 Mehefin! Llenwch eich ymateb yn awr er mwyn cael cyfle i ennill gwobr gwerth £50 .

Wednesday, 31 March 2010

Eich Awgrymiadau

English version

Diolch i bawb am eich awgrymiadau. Y mis yma rydym ni’n canolbwyntio ar rai o’r awgrymiadau rydym ni wedi’u derbyn ar gyfer y Llyfrgell:

Mwy o gyfrifiaduron”: Rydym ni bob amser yn ystyried ffyrdd o wella’n darpariaeth o ran cyfrifiaduron, ac ym mis Ionawr 2010 agorwyd Y Cwad gyda 7 cyfrifiadur newydd sbon. Hefyd rydym ni wedi archebu 2 iMac i’r Cwad a byddan nhw’n cyrraedd cyn hir. Oherwydd diffyg lle a chynnydd yn y galw am gyfrifiaduron cludadwy, ar hyn o bryd rydym ni’n ystyried prynu gliniaduron newydd i’r CAD.

Cyfnodau benthyca hirach”: Pan fo’n bosibl rydym ni’n ceisio adolygu cyfnodau benthyca teitlau unigol yn unol â’r galw. Rydym ni newydd wneud adolygiad o’r teitlau band glas yn y Llyfrgell ac wedi rhoi rhai o’r rhain ar gael ar gyfer y cyfnod benthyca safonol o 2 neu 4 wythnos. Cofiwch fod angen inni gydbwyso'ch ceisiadau am fenthyciadau hirach â'r rheini gan gwsmeriaid sy'n teimlo nad oes gennym ddigon o lyfrau ar hyn o bryd! Yn ddiweddar rydym ni wedi cyflwyno polisi e-lyfrau er mwyn sicrhau bod unrhyw deitlau newydd yn cael eu prynu fel e-lyfrau pan fo hynny’n bosibl, er mwyn cynyddu mynediad i’r teitlau hynny a sicrhau eu bod ar gael ar bob adeg.

Lleihau’r dirwyon”: Dim ond ar eitemau sy'n cael eu dychwelyd yn hwyr y byddwn ni'n codi dirwyon, felly os gwnewch chi adnewyddu neu ddychwelyd eich holl adnoddau ar amser ni fydd gofyn ichi dalu ceiniog inni! Rydym ni’n codi dirwyon er mwyn annog cwsmeriaid i ddychwelyd adnoddau ar amser a gallu’u rhoi ar gael i bobl eraill. Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi adnewyddu’ch benthyciadau gan osgoi dirwyon – ar-lein yn http://hip.drindod.ac.uk, yn bersonol yn y Llyfrgell, neu trwy ffonio 01267 676780.

Dau ddilyniant gwahanol ar y silff i lyfrau mawr Cymraeg a Saesneg”: Rydym ni wedi ystyried yr awgrym hwn yn ofalus ac ar hyn o bryd rydym ni’n teimlo na fyddai’n briodol. Un rheswm am hyn yw bod cynifer o deitlau dwyieithog na fyddai’n gweddu i drefniant tebyg yn dda iawn. Hefyd mae’r trefniant cyfredol yn helpu cwsmeriaid sy’n chwilio am ddeunydd yn y naill iaith neu’r llall yn ôl y pwnc, ac mae’n rhoi amlygrwydd cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg.

Papur am ddim”: Rydym ni eisoes yn darparu papur am ddim ichi argraffu a llungopïo.

Tuesday, 9 March 2010

Eich Awgrymiadau...

Click here for an English version of this post about your suggestions

Diolch i bawb a roddodd awgrymiadau yn ein blychau awgrymiadau newydd yn y Llyfrgell a’r Cwad. Dyma ein hadborth i’r awgrymiadau mwyaf poblogaidd yn y Cwad y mis yma...

“Cloc yn Y Cwad”: syniad da – yn sicr byddwn yn cael cloc i’r Cwad!

“Lluniau ar y wal”: mae wedi bod yn fwriad gennym o’r cychwyn i gael gwaith celf ar wal Y Cwad, a gobeithiwn allu gosod peth yn ei le yn fuan.

“Agor yn hwyrach gyda’r nos ac ar y penwythnos”: Mae’r Cwad ar agor hyd 9pm ddydd Llun i ddydd Iau, ac mae arolwg gennym ar y gweill ar hyn o bryd am ein horiau agor. Gallwch lenwi holiadur yma.

“Mwy o seddau yn Y Cwad”: mae mwy o gadeiriau ar archeb gennym a dylen nhw gyrraedd yr wythnos yma.

“Mwy o finiau sbwriel o gwmpas y lle": mae tri man ailgylchu yn Y Cwad eisoes ac rydym yn monitro’r sefyllfa.

“Bleindiau i’r ffenestri”: does dim cynlluniau gennym i gael bleindiau ar hyn o bryd gan ein bod yn gobeithio gwneud yn fawr o olwg draddodiadol yr adeilad hanesyddol hwn.

“Parc Sglefrio”: yn anffodus does dim cynlluniau gennym ar hyn o bryd i gael parc sglefrio!
Anfonir eich awgrymiadau ar gyfer y Caffi Starbucks i Ganolfan yr Halliwell.