Friday 18 November 2011

Syniadau am Anrhegion

Mae Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen (LlARB) yn gartref i Gasgliadau Arbennig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Wedi’u casglu dros y 200 mlynedd ddiwethaf, drwy gymynrodd a rhoddion yn bennaf, mae LlARB yn cynnwys mwy na 35,000 o weithiau argraffedig, 8 llawysgrif o’r Oesoedd Canol, tua 100 o lawysgrifau o’r cyfnod wedi’r Oesoedd Canol a 69 o lyfrau a argraffwyd cyn 1501. Mae deunyddiau’r Archifau yn cynnwys cofrestrau cynnar y myfyrwyr a ffotograffau o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen.

Rydym wrthi’n datblygu amrywiaeth o anrhegion a chofroddion sydd wedi’u hysbrydoli gan y llyfrau a’r llawysgrifau, a’r Nadolig hwn rydym yn cynnig dewis o gardiau Nadolig a Chalendrau sydd ar gael yn nawr i’w prynu o Siop y Brifysgol (campws Caerfyrddin) a’r Llyfrgell (Campws Llambed).

No comments: