Wednesday 16 November 2011

Bandiau Melyn – treialu polisi benthyg newydd yng Nghaerfyrddin

Yn dilyn adborth gan gwsmeriaid, byddwn yn newid ein polisi ar gyfer benthyciadau band melyn (un diwrnod) ar lyfrau Campws Caerfyrddin mewn treial tan ddiwedd y tymor ar 16eg Rhagfyr. Byddwn bellach yn caniatáu hyd at 2 adnewyddiad olynol ar lyfrau band melyn y gellir eu trefnu ar-lein neu dros y ffôn.  Ar ôl 2 adnewyddiad rhaid dychwelyd y llyfrau band melyn i’r ddesg ac, er mwyn sicrhau bod gan eraill fynediad atynt, ni cheir eu rhoi yn ôl i’r un benthyciwr. Bwriad y treial yw gwella’r gwasanaeth i gwsmeriaid sydd wedi’i chael hi’n anodd i ddychwelyd llyfr band melyn ar ôl un diwrnod, yn ogystal â’r rhai sydd wedi profi anawsterau wrth geisio cael mynediad at lyfrau band melyn oherwydd eu bod wedi eu rhoi sawl gwaith i’r un benthyciwr. 

Byddem yn croesawu’ch adborth ar y treial hwn ac os oes gennych unrhyw sylwadau a fyddech cystal ag e-bostio carmarthenlrc@tsd.ac.uk neu gwblhau’r ffurflen ar: http://www.tsd.ac.uk/en/lrc/contactus/commentsandsuggestions/

Sylwer os gwelwch yn dda bod y treial hwn ond yn cynnwys llyfrau, nid DVDau neu fideos, ac ar hyn o bryd mae’n digwydd yng Nghaerfyrddin yn unig.

No comments: