Wednesday 23 November 2011

Hysbysiad pwysig: Uwchraddio System y Llyfrgell – Campws Caerfyrddin

Ni fydd HIP, catalog y CAD ar Gampws Caerfyrddin, ar gael o ddydd Llun 28 i ddydd Mercher 30 Tachwedd yn gynhwysol oherwydd gwaith uwchraddio.   Bydd yr holl adnoddau a ddylai fel arfer fod wedi cael eu dychwelyd rhwng y dyddiadau hyn bellach i fod i gael eu dychwelyd ar ddydd Iau 1 Rhagfyr. 

Bydd y gwaith uwchraddio hefyd yn effeithio ar wasanaethau ar Gampws Caerfyrddin.   Rhwng 28 a 30 Tachwedd, ni fydd y peiriant hunanwasanaeth ar gael ac ni fyddwn yn gallu adnewyddu adnoddau'n uniongyrchol ar eich cyfrif.   Bydd y CAD ar agor fel arfer, ac os galwch yn y Llyfrgell gallwn nodi’ch manylion, gan adnewyddu’r adnoddau unwaith mae’r gwaith wedi’i gwblhau ar ddydd Iau 1 Rhagfyr.

Bydd WorldCat ar gael i’w chwilio ond sylwer y gallai manylion eitemau a gedwir ar Gampws Caerfyrddin fod yn ysbeidiol neu efallai ddim ar gael yn ystod y cyfnod hwn.   Nid effeithir ar wasanaethau yn Llambed sy’n defnyddio system Voyager.

No comments: