Monday 15 October 2012

Arswyd Nos Galan Gaeaf (gynnar) yn y Cwad - teisen am ddim!



A fyddwch chi’n rhedeg busnes? Chwilio am swyddi proffesiynol? Gweithio gyda phobl ifanc?

Oeddech chi’n gwybod bod arolwg diweddar o’r UD yn dangos bod bron 90% o gyflogwyr yn defnyddio neu yn cynllunio defnyddio cyfyryngau cymdeithasol ar gyfer recriwtio?

Beth byddai darpar gyflogwyr yn darganfod amdanoch chi?


Dewch i’n sesiwn sgiliau Calan Gaeaf: “Beth ydy’r we yn dweud amdanoch chi? Rheoli eich presenoldeb arlein” lle byddwn yn:

  Rhoi profiad ymarferol o sut y gall cyflogwyr ymchwilio darpar weithwyr ar y we

 Datblygu sgiliau i alluogi chi i gadw llygad ar eich presenoldeb arlein, uchafu eich siawns o gael swydd a helpu troi eich presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol yn rym er daioni yn lle drygioni!


Dewch i gael gweld beth y gallai darpar gyflogwyr ei ddarganfod amdanoch chi ar y we!  Neu beth am ddod i ymchwilio’ch ffrindiau?!


Ystafell 1 y Cwad, Ddydd Mawrth 23ain Hydref
10.30am-12pm
DARPERIR TEISEN AM DDIM!

No comments: