Thursday 17 March 2011

RefWorks: Gwneud Cyfeirnodi a Llyfryddiaethau’n Hawdd!

RefWorks: Gwneud Cyfeirnodi a Llyfryddiaethau’n Hawdd! Bydd y sesiwn hyfforddi fer hon yn rhoi cyflwyniad i RefWorks, sef meddalwedd cyfeirnodi ar-lein newydd y CAD. Rhaglen ar-lein ar gyfer rheoli, ysgrifennu a chydweithredu ym maes ymchwil yw RefWorks, a’i nod yw helpu ymchwilwyr i gasglu, rheoli, cadw a rhannu pob math o wybodaeth yn hawdd, yn ogystal â chynhyrchu dyfyniadau a llyfryddiaethau yn y dull o gyfeirnodi a ddewisir gan eich Ysgol.

Anelir y sesiwn at fyfyrwyr ymchwil, a bydd yn dangos i chi sut i fewngofnodi ar RefWorks, sut i ychwanegu’ch cyfeiriadau a chreu llyfryddiaeth. Mae croeso hefyd i’r staff.

Campws Caerfyrddin: 7 Ebrill, 3.15 – 4. 15pm, Ystafell D004

Campws Llambed: 8 Ebrill, 12pm – 2pm, Yr Ystafell Gyfrifiaduron Las

No comments: