Wednesday 4 August 2010

Llais digidol yn helpu pobl ddal i bori’r we yn Gymraeg

Mae Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg, ac Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth, yn lansio meddalwedd llais awtomatig yn yr Eisteddfod, sy’n galluogi i wybodaeth ar sgriniau cyfrifiadur gael ei darllen yn uchel.

RNIB Cymru sydd wedi datblygu’r Llais Synthetig Cymraeg i helpu pobl ddall a phobl rannol ddall i gael gwybodaeth ar-lein, fel amserlenni trenau.

Bydd y feddalwedd am ddim i unigolion ei lawrlwytho ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhoi £80,000 i’w chefnogi.

No comments: