Wednesday 6 January 2010

Newsbank UK


Wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer llyfrgelloedd yng Nghymru, mae’r Papur Newydd ar-lein hwn yn cynnwys teitlau poblogaidd o Gymru, gan dalu sylw manwl i faterion a digwyddiadau lleol a rhanbarthol. Fe gynhwysir teitlau adnabyddus hefyd o Loegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy’n ehangu cwmpas yr arf ymchwil grymus hwn yn bellach.

Yn cael ei ddiweddaru’n ddyddiol, mae Newsbank UK yn darparu miliynau o erthyglau papur newydd wedi eu harchifo y gall ymchwilwyr eu defnyddio i leoli ffynonellau, cymharu safbwyntiau a dilyn pynciau yn hanesyddol ac yn ddaearyddol. Gall defnyddwyr chwilio yn gyflym ac yn hawdd naill ai am bapur newydd Cymreig unigol neu am deitlau o Gymru a’r DU ar yr un pryd. Gellir creu a chadw chwiliadau wedi eu haddasu i’w defnyddio yn y dyfodol neu i’w ffurfweddu ar gyfer hysbysiadau e-bost.

Gellir cael mynediad drwy http://www.athens.ac.uk gan ddefnyddio’ch Cyfrif Athens Prifysgol y Drindod.

No comments: