Monday 21 December 2009

Band Glas

I alluogi’r myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar ardal ddysgu newydd y Ganolfan Adnoddau Dysgu yn Y Cwad, mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn treialu gwasanaeth benthyca newydd ar gyfer deunydd Band Glas (cyfeiriol). O fis Ionawr 2010, bydd eitemau Band Glas ar gael i’w benthyca am gyfnod o dair awr yn unig i’w defnyddio yn Y Cwad.

Bydd y Ganolfan yn monitro’r defnydd o’r bandiau glas yn ystod y cyfnod prawf er mwyn sicrhau bod yr holl fyfyrwyr a staff yn medru cael y defnydd gorau posibl o’r adnoddau Band Glas. Os oes unrhyw gwestiynau gennych am y gwasanaeth hwn cysylltwch â’r Ganolfan Adnoddau Dysgu.

No comments: