Wrth chwilio gyda Google Scholar ar y campws, bydd dolenni i erthyglau testun llawn rydym yn tanysgrifio iddynt bellach yn ymddangos yn awtomatig ar ochr dde canlyniadau’r chwilio. Bydd dolen hefyd yn ymddangos wrth ochr canlyniadau chwilio y mae'n debygol bod mynediad gennym drwy ddarparwyr eraill. Bydd y ddolen yn nodi "Check for full text @TSD". Mae’r ddolen yn caniatáu i chi chwilio adnoddau'r CAD i gael mynediad testun llawn i'r un erthygl drwy ffynhonnell arall.
I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ewch i Google Scholar yn http://scholar.google.co.uk
Wrth chwilio gyda Google Scholar oddi ar y campws, gallwch wirio adnoddau’r CAD hefyd drwy fewngofnodi gyda’ch cyfrif Google a newid eich dewisiadau. Ewch i’r gosodiadau ar Scholar, cliciwch ar Library links, chwiliwch am “Trinity Saint David" a thiciwch y blwch.
Sylwer na fydd pob canlyniad o’n hadnoddau arbenigol yn ymddangos gyda’r dull hwn. Felly ar gyfer chwilio mwy dwys rydym yn argymell eich bod yn mynd i'n tudalen ar gyfer adnoddau electronig yn: http://www.trinitysaintdavid.ac.uk/cy/cad/adnoddauar-lein/
No comments:
Post a Comment