The UWTSD Library blog features posts by Library staff about new resources and services at Carmarthen and Lampeter. Entries may be posted here in Welsh or English and readers are invited to post comments in either language.
Thursday, 8 December 2011
Cyfnodau Benthyca dros y Nadolig
Campws Caerfyrddin: O ddydd Iau 8 Rhagfyr, bydd y rhan fwyaf o eitemau a fenthycwch o’r Llyfrgell Campws Caerfyrddin i’w dychwelyd ddydd Mercher 11 Ionawr 2012.
Campws Llambed: O ddydd Sadwrn 10 Rhagfyr, bydd y rhan fwyaf o eitemau a fenthycwch o’r Llyfrgell i’w dychwelyd ddydd Gwener 13 Ionawr 2012.
Ôl-raddedigion a Staff: Bydd eitemau heb fand (benthyciad arferol) yn cael eu benthyg am y cyfnod arferol o 8 wythnos ar hyd y gwyliau.
Bydd y cyfnodau benthyca arferol yn berthnasol i’r eitemau Band Melyn, Band Glas, cylchgronau, gliniaduron a cyfrifiaduron MacBook.
Wednesday, 7 December 2011
E-adnodd mis Rhagfyr yw RefWorks

Rhaglen ar-lein ar gyfer rheoli, ysgrifennu a chydweithredu ym maes ymchwil yw RefWorks, a’i nod yw helpu myfyrwyr ac ymchwilwyr i gasglu, rheoli, storio a rhannu pob math o wybodaeth yn hawdd, yn ogystal â chynhyrchu dyfyniadau a llyfryddiaethau.
Os oes angen rheoli gwybodaeth arnoch am unrhyw reswm – boed at ysgrifennu, ymchwil neu gydweithredu -- RefWorks yw'r cymorth perffaith.
”I gael mynediad i RefWorks bydd angen Cyfrif Athens arnoch o’r Brifysgol. Am fanylion pellach cliciwch ar: http://www.trinitysaintdavid.ac.uk/cy/cad/adnoddauar-lein/refworks/
E-Resource for December is RefWorks

If you need to manage information for any reason -- whether it be for writing, research or collaboration -- RefWorks is the perfect tool.
Wednesday, 23 November 2011
Library System Upgrade - Carmarthen Campus
Hysbysiad pwysig: Uwchraddio System y Llyfrgell – Campws Caerfyrddin
Bydd y gwaith uwchraddio hefyd yn effeithio ar wasanaethau ar Gampws Caerfyrddin. Rhwng 28 a 30 Tachwedd, ni fydd y peiriant hunanwasanaeth ar gael ac ni fyddwn yn gallu adnewyddu adnoddau'n uniongyrchol ar eich cyfrif. Bydd y CAD ar agor fel arfer, ac os galwch yn y Llyfrgell gallwn nodi’ch manylion, gan adnewyddu’r adnoddau unwaith mae’r gwaith wedi’i gwblhau ar ddydd Iau 1 Rhagfyr.
Bydd WorldCat ar gael i’w chwilio ond sylwer y gallai manylion eitemau a gedwir ar Gampws Caerfyrddin fod yn ysbeidiol neu efallai ddim ar gael yn ystod y cyfnod hwn. Nid effeithir ar wasanaethau yn Llambed sy’n defnyddio system Voyager.
Tuesday, 22 November 2011
Change in opening hours Lampeter Campus Library only
.