Tuesday 23 April 2013

I’w ddefnyddio neu’i golli!


I’w ddefnyddio neu’i golli!

 
A yw’r casgliad arteffactau yn YDDS ar gampws Caerfyrddin yn rhywogaeth sydd mewn perygl, tybed? Mae gan lai a llai o brifysgolion sydd â chwrs hyfforddi athrawon gasgliad tebyg i hwn L. Helpwch ni i gadw’n casgliad ni. Yn ystod tymor 1af y flwyddyn academaidd hon, bu’r defnydd arno yn is nag erioed o’r blaen (efallai fod hyn o ganlyniad i amseriad newydd ymarfer dysgu). Mae lle yn brin yn y CAD ar gampws Caerfyrddin ac efallai y symudir casgliadau nas defnyddir. Os nad ydych byth wedi defnyddio’r casgliad beth am ddod i fwrw golwg arno – fe’i crëwyd i’r rheini sy’n gwneud hyfforddiant dysgu, ond efallai y bydd o ddefnydd i’r rheini sy’n gwneud cyrsiau eraill megis Astudiaethau Plentyndod Cynnar ac Ieuenctid a Chymuned.  Os yw’r rheini ohonoch sydd wedi defnyddio’r casgliad yn  y gorffennol o’r farn y dylid ei gadw, cofiwch sicrhau eich bod yn ei ddefnyddio yn ystod yr wythnosau nesaf.
Pan gymerir arteffactau i’r Ysgol caiff y plant gyfle unigryw i'w trin a’u trafod ac mae'u profiad dysgu’n wahanol iawn i ddefnyddio’r we ar gyfer dysgu. Yn y casgliad arteffactau ceir ystod eang o wrthrychau o ddarnau arian Rhufeinig, lamp Hanukah i offer Bee-bot, parasiwtiau a phypedau.

No comments: