Friday 4 January 2013

Adnewyddu Llyfrgell Llambed


Mae cyfnod olaf yr adnewyddu ar fin dechrau a gobeithiwn y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn diwedd Ionawr. Tra bod y gwaith yn mynd yn ei flaen bydd rhaid i ni gau’r man astudio ar y llawr isaf am resymau iechyd a diogelwch, felly defnyddiwch y llawr uchaf a’r llawr Mesanîn os gwelwch yn dda neu’r ystafelloedd astudio tawel (Ystafell Cyril Williams/Ystafell Ymchwil Ôl-raddedig).

Bydd y llawr isaf i gyd ar gau i gwsmeriaid rhwng 7/1/2013 a 12/1/2103 fel y gellir cydosod silffoedd a symud y llyfrau a’r cylchgronau. Os bydd arnoch angen llyfr neu gylchgrawn o’r llawr isaf a fyddech cystal â gofyn yn y Man Gwybodaeth ble bydd staff y CAD yn falch o’ch cynorthwyo.
Diolch am eich cydweithrediad a’ch amynedd

No comments: