Friday 14 December 2012

Hysbysiadau cwrteisi i fyfyrwyr a staff

Mae’n bleser gan y CAD gyhoeddi yr anfonir hysbysiadau cwrteisi at fyfyrwyr â benthyciadau 8 wythnos o fis Ionawr 2013.

Bydd yr hysbysiadau hyn yn eich atgoffa am y dyddiad dychwelyd ychydig o ddyddiau cyn bod angen dychwelyd llyfrau ac adnoddau eraill, ac fe’u hanfonir at eich cyfeiriad e-bost arferol yn y Brifysgol.

Mae croeso i staff y Brifysgol fanteisio ar y gwasanaeth hwn hefyd. Er mwyn sicrhau bod staff yn derbyn yr hysbysiadau’n gywir, mae angen i ni wirio eich cyfeiriad e-bost. Cysylltwch â ni os hoffech chi dderbyn hysbysiadau gan gadarnhau eich cyfeiriad e-bost yn y Brifysgol, neu galwch yn y llyfrgell ar eich campws.

No comments: