Friday 17 August 2012

Rhybudd pwysig i gwsmeriaid Campws Llambed

Sylwer bod oriau agor y Llyfrgell yn Llambed wedi newid.   Oherwydd oedi sydd tu hwnt i’n rheolaeth, nid yw’r gwaith wedi cadw at yr amserlen arfaethedig ac mae'n rhaid i ni gyfyngu ein gwasanaeth i fyfyrwyr sy'n ailsefyll arholiadau yn unig.   Rydym wedi cysylltu â’r myfyrwyr hyn gan ofyn iddynt roi gwybod i ni os bydd angen y gwasanaeth arnynt cyn diwedd y mis.   Sylwer bod y Llyfrgell bellach yn safle adeiladu a bod y staff wedi symud i Ganolfan y Cyfryngau.   Cysylltwch â ni drwy’r ffôn neu e-bost os gwelwch yn dda gan ein bod yn gweithio rhwng y ddau adeilad.


Yn y cyfamser, byddem yn cynghori defnyddwyr y Llyfrgell i ddefnyddio ein hadnoddau ar-lein http://www.tsd.ac.uk/cy/cad/adnoddauar-lein/ , y Llyfrgell ar gampws Caerfyrddin os ydy pynciau'n gorgyffwrdd, neu Lyfrgell Genedlaethol Cymru http://www.llgc.org.uk/ neu Gynllun Sconul http://www.tsd.ac.uk/cy/cad/gwasanaethauistaff/defnyddiollyfrgelloedderaill/.   Gan ei bod yn llyfrgell adnau cyfreithiol, mae gan y Llyfrgell Genedlaethol gasgliad helaeth, a llawer ohono'n debyg i'n casgliad ein hun.

Ymddiheuraf am yr anghyfleustra a achosir a rhoddaf yr wybodaeth ddiweddaraf i chi pan fydd gennyf ddarlun eglur a chywir o ddatblygiadau yn y gwaith.

No comments: