Friday 27 July 2012

Rhybudd pwysig i gwsmeriaid Campws Llambed: System arall yn lle Voyager

Dros yr haf, bydd y Ganolfan Adnoddau Dysgu’n symud o system Voyager ar gampws Llambed i system Horizon a ddefnyddir ar Gampws Caerfyrddin ar hyn o bryd.   Bydd WorldCat ar gael fel arfer i chwilio ar draws ein holl adnoddau argraffedig ac electronig, ac o fis Medi bydd rhyngwyneb newydd ar gael i reoli’ch cyfrif CAD ac adnewyddu’ch benthyciadau.   Bydd Voyager yn dod i ben yn yr haf, ac wedi hynny bydd angen i chi ddefnyddio WorldCat neu HIP i chwilio am adnoddau a gedwir yn y Llyfrgell ar Gampws Llambed.

Gobeithiwn y bydd y newid hwn yn caniatáu i ni ddarparu gwell wasanaeth i fyfyrwyr a staff ar Gampws Llambed.

Yn ystod y cyfnod 24 Gorffennaf i 24 Medi, cysylltwch â ni yn cadllambed@ydds.ac.uk am gyngor o ran adnewyddu yn hytrach nag adnewyddu ar-lein.  O 24 Medi byddwch yn gallu adnewyddu ar-lein drwy ddefnyddio HIP yn http://hip.tsd.ac.uk

No comments: