Wednesday 9 May 2012

E-adnodd Newydd: Business Source Complete


Yn ddiweddar mae CAD wedi dechrau tanysgrifio i Business Source Complete, cronfa ddata ysgolheigaidd ddefnyddiol am fyd busnes.  Mae’r e-adnodd hwn yn darparu mynediad i gasgliad cynhwysfawr o e-gylchgronau testun llawn, e-lyfrau, adroddiadau am y diwydiant ac ymchwil i’r farchnad, proffiliau cwmnïau a llawer mwy.  Mae Business Source Complete yn cymryd lle tanysgrifiad CAD i Emerald, sydd ddim bellach ar gael i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. 

Ceir mynediad i Business Source Complete trwy’r dudalen e-adnoddau ar wefan CAD.  Mae angen cyfrif Athens i gael mynediad iddo oddi ar y campws.

No comments: