Friday 23 March 2012

Mynediad cynllun SCONUL i SOAS, Llundain

Ni chaiff deiliaid cardiau mynediad Sconul at ddibenion cyfeiriadol ddefnyddio’r Llyfrgell Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd (SOAS) rhwng 19 Mawrth a 8 Mehefin. Effeithia hyn ar y defnyddwyr canlynol: israddedigion allanol ac ôl-raddedigion a addysgir (Meistr); ni chrëir unrhyw gardiau newydd ar gyfer Band B, B Ref, ac C. Hefyd ni fydd Mynediad Cyfeiriadol Gwyliau i bob defnyddiwr allanol yn ystod misoedd Mehefin – Medi 2012. Ni effeithir ar ddeiliaid cardiau presennol, gan gynnwys Band A, a bydd SOAS yn creu cardiau mynediad SCONUL newydd ar gyfer ymchwil a defnyddwyr staff sydd â chardiau sefydliadol dilys yn unig.
Sylwer: Yn rheolaidd, bu SOAS yn llenwi capasiti ein hadeilad neu’n mynd y tu iddo, felly mae'r Llyfrgell yn cadw'r hawl i wrthod mynediad os byddwn yn rhy llawn. Cyflwynir cyfyngiadau pellach yn ystod yr haf adeg y Gêmau Olympaidd. Rhoddir gwybod am y rhain (ar dudalennau gwe SOAS) cyn gynted ag y byddant wedi eu cadarnhau. Cysylltwch ag SOAS os bydd gennych unrhyw ymholiadau.

No comments: