Tuesday 14 February 2012

Cymru 1914-18: Y Rhyfel Mawr a’r profiad Cymreig

#CymruWW1

Rhoi Hanes Cymru a’r Rhyfel Mawr Ar-lein

Mae prosiect a arweinir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â llyfrgelloedd, casgliadau arbennig ac archifau Cymru wedi derbyn £500,000 gan y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth, JISC (Joint Information Systems Committee) i ddigido ar raddfa enfawr, ffynonellau gwreiddiol yn ymwneud â’r Rhyfel Mawr.

Bydd y prosiect yn creu casgliad digidol unigryw a digymar o hanes cudd y Rhyfel Byd Cyntaf a sut y bu iddo effeithio ar holl fywyd Cymru, ei hiaith a’i diwylliant. Bydd y prosiect yn digido ffynonellau printiedig a llawysgrifol yn ogystal â deunydd ffilm, sain a ffotograffau. Mae’r ffynonellau yma, ar hyn o’r bryd, ar wasgar ac yn aml yn anghyraeddadwy, ond gyda’i gilydd byddant yn creu adnodd unigryw a hanfodol i ymchwilwyr, myfyrwyr a phobl Cymru a thu hwnt. Bydd y casgliad digidol ar gael ar wefan fydd â theclyn cyfieithu er mwyn i’r di-Gymraeg ddeall ysgrifau yn y Gymraeg.

‘Bydd y wefan yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer dysgu, ymchwil a chofio a bydd ar gael ar-lein mewn pryd ar gyfer canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel,’ meddai Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol. ‘Mae hwn yn enghraifft wych o gydweithio ar draws llyfrgelloedd, archifau a chasgliadau arbennig Cymru i gyflwyno’r hanesion unigryw hyn i’r gynulleidfa ehangaf posibl, drwy eu digido.’

Datblygwyd y prosiect gan Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF). Daw’r casgliadau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru; Casgliadau Arbennig Prifysgol Aberystwyth; Casgliadau Arbennig Prifysgol Bangor; Casgliadau Arbennig Prifysgol y Drindod Dewi Sant; Llyfrgell Prifysgol Caerdydd; Archifau BBC Cymru Wales ac archifau lleol sy’n aelodau o Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru (ARCW). Bydd Casgliad y Werin Cymru yn casglu’r cynnwys a gynhyrchir gan gymunedau, haneswyr lleol a haneswyr teulu. Byddant hefyd yn digido eitemau o gasgliadau personol wrth deithio ar draws Cymru yn digido deunydd o bwys. Drwy wneud hyn byddant yn ychwanegu a chryfhau casgliadau’r partneriaid Addysg Uwch gan greu casgliad digidol cyflawn, unedig, i gynrychioli profiad y genedl Gymreig yn ystod y Rhyfel Mawr.

Mae’r cynnwys sydd i’w ddigido wedi ei ddethol mewn cydweithrediad ag academyddion Cymru a thu hwnt, a bydd gwaddol digidol y prosiect yn arwain at ymchwil newydd am Gymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Dywedodd Paola Marchionni, Rheolwr Prosiect JISC, ‘Drwy ddigido a chydweithio bydd y prosiect hwn yn dod a chasgliad rhyfeddol o archifau ynghŷd i un lle. Mae’n addo bod yn ganolfan bwysig ar gyfer ymchwilwyr neu fyfyrwyr sydd am edrych ar brofiad Cymru a’r Rhyfel Mawr. Rydym yn falch iawn i gefnogi’r prosiect yma sy’n cyd-fynd â nifer o brosiectau eraill a ariennir gan JISC sy’n ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf yn ogystal â gweithgareddau cofio yng Nghymru, Prydain ac yn rhyngwladol.’ JISC yw consortiwm technolegol ar gyfer addysg uwch a phellach.

Cost y prosiect digido yma fydd £987,916. Daw £500,000 o’r gyllideb raglen cynnwys JISC ar gyfer 2011-13. Codir gweddill yr arian drwy gyfraniad sefydliadol bunt am bunt partneriaid y prosiect.

Mae’r prosiect yn cychwyn ym mis Chwefror 2012 a lansir yr adnoddau ar-lein ym Mehefin 2013.

Gwybodaeth Bellach:

Lorna Hughes, Cadair Casgliadau Digidol Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: lorna.hughes@llgc.org.uk

No comments: