Wednesday 13 July 2011

Education Research Complete

Yn dilyn llwyddiant y gwaith o dreialu Education Research Complete (ERC), mae CAD yn falch o gyhoeddi y byddwn yn tanysgrifio o 1 Awst 2011 ymlaen.

Yn yr e-adnodd hwn ceir y casgliad mwyaf yn y byd o ran maint a chyflawnder o gyfnodolion addysg testun llawn. Rhoddir sylw i destunau megis pob lefel o addysg o blentyndod cynnar i addysg uwch, a phob arbenigedd addysgol, megis addysg amlieithog, addysg iechyd, ac anghenion dysgu ychwanegol.

I ddefnyddio ERC bydd angen mynd trwy'r dudalen ar gyfer e-adnoddau ar wefan y CAD. Rhaid cael Cyfrifon Athens Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant er mwyn defnyddio’r adnodd y tu allan i’r campws.

No comments: