Friday 15 April 2011

MERCH PERYGL - GOMER YN CYHOEDDI DETHOLIAD O WAITH MENNA ELFYN

Yr wythnos hon, bydd Gwasg Gomer yn cyhoeddi cyfrol bwysig o waith Menna Elfyn, un o feirdd pwysicaf y Gymru fodern. Am y tro cyntaf, fe fydd y gyfrol hon yn cynnig detholiad cynhwysfawr o waith bardd sydd wedi chwarae rhan anhepgor yn natblygiad barddoniaeth am dros 35 mlynedd a mwy. Yn y gyfrol Merch Perygl ceir dros 150 o gerddi yn rhychwantu gyrfa gyfan y bardd hyd yma, o gyfrolau cynnar y saithdegau Mwyara a ‘Stafelloedd Aros, drwy’r wythdegau a’r nawdegau i gyfrolau diweddar megis y gyfrol ddwyieithog gan Bloodaxe, Perfect Blemish/Perffaith Nam a’r gyfrol ddiweddaraf gan Gomer, Er Dy Fod, yn 2007. Serch ei llwyddiant byd-eang, a gwahoddiadau di-ri i deithio’r byd i hyrwyddo cyfrolau newydd mewn ieithoedd tramor, mynna Menna Elfyn, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr ar y cwrs gradd meistr ysgrifennu creadigol Cymraeg a Saesneg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mai bardd Cymraeg yw hi wastad, a dyna pam fod y gyfrol hon yn golygu cymaint iddi.

No comments: