Showing posts with label hunanwasanaeth. Show all posts
Showing posts with label hunanwasanaeth. Show all posts

Friday, 13 January 2012

Hunanwasanaeth gwell gyda thaliadau cerdyn credyd wedi ei lansio yng Nghaerfyrddin

Yn dilyn treial llwyddiannus y tymor diwethaf, mae’n bleser gan y CAD gyhoeddi lansiad ein system hunanwasanaeth newydd ar Gampws Caerfyrddin.  Mae’n system newydd ni bellach ar gael ar y ddwy derfynell hunanwasanaeth, a bydd yn gadael i chi fenthyca a dychwelyd mwy na saith eitem ar yr un pryd, a thalu’r taliadau gyda cherdyn credyd neu ddebyd i gynnig gwasanaeth cyflymach a mwy cyfleus heb i chi orfod dod i’r Man Gwybodaeth.  Fel gyda’n system flaenorol, darperir derbynneb hefyd gyda phob taliad, sy’n cynnwys dyddiad dyledus neu ddyddiad cwblhau unrhyw adnoddau sydd wedi eu benthyca. Rhowch gynnig arni y tro nesaf y galwch i mewn!

Friday, 2 October 2009

Mannau hunanwasanaeth newydd

Dewch i’r Llyfrgell a rhowch gynnig ar ein mannau hunanwasanaeth newydd. Maen nhw’n gadael ichi fenthyg a dychwelyd llyfrau, DVDs a chryno ddisgiau’n gyflym ac yn rhwydd.

Pwyswch ar y sgrin i wneud eich dewis, wedyn rhowch nifer o lyfrau, DVDs neu gryno ddisgiau ar y man gwyn dan y sgrin i’w benthyg neu’u dychwelyd. Yn wahanol i’r peiriant hunanwasanaeth blaenorol, nid oes angen sganio’r cod bar tu fewn i glawr y llyfrau bellach.

Bydd y peiriannau hunanwasanaeth hefyd yn dweud wrthych chi a oes eitem ar gadw ac yn barod ichi ei chasglu, ac a oes unrhyw daliadau ar eich cyfrif. Cyn hir byddwch yn gallu gwneud taliad hunanwasanaeth trwy gerdyn รข sglodyn a rhif pin.
Darparwyd ein peiriannau hunanwasanaeth newydd trwy brosiect y Llyfrgell Academaidd Rithwir dan adain SWWHEP.