Diolch i bawb am eich awgrymiadau. Y mis hwn rydym yn canolbwyntio ar rai o’r awgrymiadau sydd wedi dod i law ar gyfer y Cwad.
“Yn fy marn i dylai ardal y cyfrifiaduron fod ar gyfer gwaith ac nid ar gyfer gwefannau rhyngweithio cymdeithasol.”
Mae cyfrifiaduron y CAD ar gael i bawb, ac rydym yn derbyn efallai fod rhai myfyrwyr yn ymweld â gwefannau rhyngweithio cymdeithasol at eu defnydd personol, ond rydym hefyd yn cydnabod efallai fod llawer o fyfyrwyr yn defnyddio’r offer hyn yn gymorth astudio. Bydd rhai myfyrwyr yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â'u tiwtoriaid a'u cyd-fyfyrwyr, neu i gymryd rhan mewn prosiect grÿp, er enghraifft. Yn aml mae’n anodd asesu sut mae cyfrifiaduron yn cael eu defnyddio heb amharu ar breifatrwydd myfyrwyr fel unigolion.
“Mwy o liw, e.e. lluniau”
Yn ddiweddar mae’r CAD wedi cyflwyno arwyddion a gwaith celf newydd yn Y Cwad gyda help gwneuthurwr arwyddion proffesiynol, ac ar hyn o bryd mae'n ymchwilio i'r posibilrwydd o gyflwyno gwaith celf i'r ardal.
“Mae lefel y sÿn yn yr ardal astudio / cyfrifiaduron yn torri ar eich traws yn fawr”
Cynlluniwyd prif ardal Y Cwad i fod yn ardal dysgu cymdeithasol. Byddem yn argymell myfyrwyr i roi cynnig ar ddefnyddio'r lleoedd astudio unigol lan lofft yn y Llyfrgell ar gyfer astudio tawel, neu un o'r ystafelloedd astudio yn Y Cwad. Er eu bod wedi’u cynllunio i grwpiau astudio ynddynt, mae’n bosibl defnyddio’r ystafelloedd astudio ar gyfer astudio tawel hefyd, a gallwch chi eu harchebu, neu’u defnyddio pan nad yw myfyrwyr eraill wedi’u cadw.
No comments:
Post a Comment