![](https://blogger.googleusercontent.com/img/b/R29vZ2xl/AVvXsEhAWZDeNZRlz0Xab0GrzSDZC6Hp0pwK1Sv42RitK3pf4LWvpZl_uRdVFe1gsJQYsBpHOe4KgX3orVtqWQb92_f5okLxwg-_gd474-8mt4TVXmqcaDDgqa849Sgmn4UxGiNYxUdfuIB7eyXx/s400/suggestions.png)
“Rhagor o oleuadau / gwell goleuo”: Ar hyn o bryd rydym yn ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer gwella’r golau yn y Llyfrgell gydag Adran Ystadau’r Brifysgol.
“Rhagor o fyrddau i weithio arnynt”: Byddwn yn ystyried y lle sydd ar gael yn y Llyfrgell er mwyn gweld a oes unrhyw le addas ar gyfer rhagor o fyrddau astudio. Mae amrywiaeth o fyrddau astudio a seddau ar gael yn y Cwad hefyd, gan gynnwys ystafelloedd astudio grŵp y gellir eu cadw, cyfrifiaduron personol a mynediad rhyngrwyd di-wifrai.
Cofiwch ddweud eich dweud – peidiwch ag anghofio bod arolwg y Ganolfan Adnoddau Dysgu yn parhau tan 30 Mehefin! Llenwch eich ymateb yn awr er mwyn cael cyfle i ennill gwobr gwerth £50 .
No comments:
Post a Comment