Mae Social Policy and Practice (yn cynnwys ChildData) yn gronfa ddata lyfryddol bwysig gyda chrynodebau, ac mae’n cwmpasu polisi cymdeithasol, iechyd cyhoeddus, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, y gyfraith, datblygiad cymunedol ac iechyd meddwl a chymunedol a seilir ar dystiolaeth. Mae’r gronfa ddata’n arbennig o gryf ar ofal cymdeithasol i’r ifanc a’r henoed.
Mae’r adnodd yn dod â data wedi’i hintegreiddio o bum prif sefydliad dan un rhyngwyneb chwilio sy’n cynnwys tua 200,000 o gofnodion. Mae’r gronfa ddata’n cynnwys cofnodion o 1981 hyd heddiw, gyda 24,000 o gofnodion newydd yn cael eu hychwanegu bob blwyddyn ar gyfartaledd.
Dyma’r sefydliadau: Canolfan Polisi ar Heneiddio, Awdurdod Llundain Fwyaf, IDOX, Y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE)a Biwro Cenedlaethol y Plant.
Mae’r rhan fwyaf o’r deunydd yn deillio o’r DU ond mae deunydd Ewropeaidd ac o’r UDA yma hefyd.
Mae tua 50% o’r cyfeiriadau i lenyddiaeth ‘lwyd’, gan gynnwys adroddiadau a led-gyhoeddwyd, papurau gweithredol, adroddiadau llywodraeth leol a chanolog, a deunydd o’r sector gwirfoddol ac elusennau.
Ceir mynediad trwy http://www.athens.ac.uk gan ddefnyddio’ch cyfrif Athens ar gyfer Coleg Prifysgol y Drindod.
No comments:
Post a Comment