Cyhoeddiad Pwysig
Mae’r dull o gael mynediad i adnoddau llyfrgell ar-lein PCYDDS yn newid!
Fel y gwyddoch, mae Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu PCYDDS yng Nghaerfyrddin, Llambed a Llundain yn defnyddio system fewngofnodi Athens ar hyn o bryd ar gyfer adnoddau ar-lein megis e-lyfrau ac e-gylchgronau. Mae nifer o anfanteision i’r system hon:
- Mae angen ichi gofio enw defnyddiwr a chyfrinair ar gyfer Athens sy’n wahanol i'ch prif gyfrif prifysgol;
- Mae’n rhaid inni anfon eich manylion mewngofnodi ar gyfer Athens atoch drwy e-byst awtomatig, sydd weithiau'n cael eu hatal gan hidlwyr post sothach;
- Nid yw’n hawdd diweddaru’ch manylion mewngofnodi ar gyfer Athens os byddwch yn newid eich cwrs neu'n cael estyniad, ac mae'n rhaid inni eu hymestyn â llaw ar gais;
- Mae system Athens yn cael ei rheoli â llaw, sy’n gallu arwain at oedi wrth ymateb i’ch e-byst ar adegau prysur.
Er mwyn helpu datrys y problemau hyn a gwella ein gwasanaeth ichi, mae’r Llyfrgell yn symud i ffwrdd oddi wrth Athens am y rhan fwyaf o’n hadnoddau ar-lein gan ddechrau ym mis Medi 2014. Yn lle hyn byddwn yn cyflwyno system fewngofnodi newydd sy’n caniatáu ichi ddefnyddio’ch enw defnyddiwr a chyfrinair prifysgol. Ni fydd angen ichi wneud unrhyw beth i fanteisio ar y newid hwn.
I fewngofnodi gan ddefnyddio'r system newydd, o 22 Medi bydd angen ichi sicrhau eich bod yn cael mynediad i adnoddau llyfrgell naill ai drwy wefan y Llyfrgell yn
http://www.uwtsd.ac.uk/library neu o gatalog y Llyfrgell yn
http://tsd-c.worldcat.org neu
http://tsd-l.worldcat.org/ lle gofynnir ichi fewngofnodi gan ddefnyddio'ch cyfrif PCYDDS. Sylwer na fydd yn bosibl mewngofnodi i’n hadnoddau drwy chwiliad Google neu nod tudalen blaenorol, oherwydd ni fydd modd i’r gwefannau wybod eich bod yn deillio o PCYDDS.
Os oes gennych gyfrif Athens eisoes, bydd yn parhau’n ddilys ar gyfer llawer o adnoddau tan y dyddiad y daw i ben. Fodd bynnag byddwn yn lleihau ein cefnogaeth i Athens o fis Medi ymlaen, ac felly os daw eich manylion mewngofnodi i ben neu os cewch anawsterau, byddwn yn eich annog i ddefnyddio’r system fewngofnodi newydd.
Mae nifer bach iawn o adnoddau arbenigol a fydd yn parhau i ddefnyddio Athens. Byddwn yn parhau i gyflenwi a chefnogi manylion mewngofnodi drwy Athens ar gais ar gyfer yr adnoddau hyn yn unig o Medi 2014:
Digimap
BUFVC
Os bydd unrhyw ymholiadau gennych, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda:
Caerfyrddin -
Llyfrgell-Caerfyrddin@ydds.pcydds.ac.uk
Llambed –
Llyfrgell-Llambed@ydds.pcydds.ac.uk
Llundain -
LondonLibrary@tsd.uwtsd.ac.uk